Skip to content

Y Gweithfeydd Glynebwy

Y Gweithfeydd Glynebwy

Dau blentyn ifanc yn edrych ar ddeilen trwy chwyddwydr.

Wrth chwilio am le i fyw, dysgu, gweithio a chwarae ynddo, mae’r argraff y mae lle yn ei adael arnoch yn hollbwysig. Os ydy harddwch naturiol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn eich rhyfeddu, os ydych am fyw bywyd gwyrdd, os ydych am antur a chyffro wrth garreg drws ac os ydy cymuned yn beth pwysig ichi, yna byddai’n anodd dychmygu lle gwell ichi na’r Works, Glynebwy.
Dyma ddatblygiad cyffrous ac unigryw yng nghalon Blaenau Gwent, a fydd yn gyswllt ichi â phethau gwyrdd bywyd.

Mae datblygiadau fel arfer yn tueddu i ganolbwyntio ar yr adeiladau yn unig, ond rydym ni'n rhoi’n sylw ar yr effaith y byddwn yn ei chael ar eich bywyd: trwy’r Campws Dysgu newydd, y tai eco-gyfeillgar a’r golygfeydd syfrdanol o gwmpas ardal Glynebwy.

Mae'r safle wedi datblygu'n gyflym iawn, sy'n gymeradwy ac yn enghraifft wych o sefydliadau'r sector cyhoeddus a phreifat yn cydweithio i ddod â bywyd newydd i Lynebwy.

Ieuan Wyn Jones, Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Dolenni perthnasol

O adfeilion yr hen waith dur, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio gyda’i gilydd i greu gweledigaeth newydd ar gyfer Glynebwy.
Mae’r prosiect, ar y cyd â’r Ganolfan Byd Gwaith, wedi llwyddo i ddod o hyd i Reolwr Cyflogaeth sydd wedi’i neilltuo’n benodol ar gyfer y safle.
Mae’r Cynghorydd Des Hillman, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent, yn croesawu pawb i Eisteddfod Blaenau Gwent.