Hyfforddeion yn dysgu adeiladu'n wyrdd ar gyfer y dyfodol
Cafodd y ddau gwestiwn ateb clir ar gyfer Prentisiaid adeiladu yng Nghampws Coleg Gwent ym Mhont-y-pŵl ym mis Tachwedd pan fuont yn cymryd rhan mewn gweithdai i dynnu sylw at arferion cynaliadwy yn y diwydiant.
O ddefnyddio ynni solar ar gyfer trydan a dŵr poeth yn y cartref, i ddefnydd dŵr a defnyddio deunyddiau cynaliadwy, dysgodd yr hyfforddeion am yr effaith y gall adfywio ei gael ar yr amgylchedd a sut i fabwysiadu prosesau cynaliadwy i ddiwallu anghenion cymunedau lleol, busnesau ac aelwydydd unigol, yn awr ac yn y dyfodol.
Cafodd yr hyfforddeion hefyd wybodaeth ar y prosesau 'gwyrdd' mwy traddodiadol yn ymwneud â llygredd a'r effaith y gall adeiladu ei gael ar yr amgylchedd megis gwastraff ac ailgylchu, yn ogystal â llygredd llwch a sŵn ac ystyriaeth ar gyfer cymunedau cyfagos. Heb anghofio'r ddeddfwriaeth ar gynaliadwyedd, a ddaeth yn gynyddol dyn yn y degawd diwethaf, trafododd y grŵp y goblygiadau cyfreithiol a chodau ymarfer.
Daethpwyd â'r gweithdai'n fyw yn defnyddio enghreifftiau go iawn o'r Gweithfeydd yng Nglynebwy a ddaw'n gartref i Gampws newydd sbon y Coleg, Hafan Dysgu Blaenau Gwent, yn ogystal â datblygiadau preswyl, hamdden, busnes a chymunedol a gynhwysir yn y prosiect adfywio £350 miliwn.
Rhoddodd Helen Reardon, Swyddog Cyswllt â'r Gymuned prosiect Y Gweithfeydd a Veronika Brannovic, Rheolwr Rhaglen Pobl a Bywyd Gwyllt Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, gipolwg i'r hyfforddeion ar y nodweddion cynaliadwy yn Y Gweithfeydd fydd yn helpu i gadw'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, tra'n diwallu gofynion cymdeithasol ac economaidd. Canfu'r myfyrwyr am agweddau cysylltiedig ag adeiladu tai cyfeillgar i'r amgylchedd yn cynnwys defnyddio adnoddau cynaliadwy ac effeithiolrwydd ynni.
Byddant yn ymweld â'r Gweithfeydd yn gynnar yn 2012 gan eu galluogi i weld y sgiliau cynaliadwyedd ymarferol y gwnaethant eu dysgu yn y gweithdy ar waith.
Dywedodd y Cynghorydd John Mason, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent:
“Mae byw cynaliadwy yn uchel ar yr agenda ym mhob man - yn cynnwys yma ym Mlaenau Gwent - a'r prentisiaid hyn fydd yn cael y dasg o helpu i fynd â hyn ymlaen a dysgu'r sgiliau i sicrhau dyfodol cynaliadwy i bawb ohonom.
“Rwy'n falch iawn bod safle'r Gweithfeydd, sydd yn arwain mewn datblygu cynaliadwy, a'r tîm prosiect yno wedi medru cynorthwyo yn y gwaith pwysig yma i gefnogi'r crefftwyr cyfeillgar i'r amgylchedd y dyfodol."
Mae Coleg Gwent yn cyflwyno cyfres o weithdai ar gyfer hyfforddeion adeiladu ar draws de ddwyrain Cymru.
Ychwanegodd Alyson Moon, Pennaeth Technoleg y Campws:
“Fe wnaeth Sgiliau Adeiladu ddewis y Coleg i gyflwyno'r gweithdai i dros 50 o ddysgwyr a gyflogir yn yr ardal ac maent yn profi'n gadarnhaol iawn. Gan fod gofyniad cynyddol i gontractwyr arddangos arferion cynaliadwy, mae'n hanfodol bod gweithwyr adeiladu yn awr ac yn y dyfodol yn deall yr effaith y gall adeiladu ei gael ar yr amgylchedd a bod y sgiliau ganddynt i weithredu fforddiadwyedd, ansawdd ac effeithiolrwydd hirdymor."
