Skip to content

Willmott Dixon yn adeiladu cam newydd 11-16 ysgol 3-16 yn Y Gweithfeydd

Willmott Dixon yn adeiladu cam newydd 11-16 ysgol 3-16 yn Y Gweithfeydd

torri'r dywarchen gyntaf

Mae'r gwaith wedi dechrau'n swyddogol ar gam 11-16 yr Ysgol 3-16 yn Y Gweithfeydd ym Mlaenau Gwent, cynhaliwyd seremoni torri'r dywarchen gyntaf gan gwmni adeiladu blaenllaw Willmott Dixon mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent.

Cynhaliwyd y seremoni, ym mhresenoldeb y Gweinidog Addysg a Sgiliau Leighton Andrews, ar safle Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr gyda swyddogion lleol ac aelodau o'r gymuned. Mae'r ysgol newydd yn rhan o brosiect adfywio Y Gweithfeydd i drawsnewid hen safle gwaith dur Glynebwy. Mae'r prosiect £27 miliwn i'w gwblhau yn hydref  2013 gyda'r disgyblion yn mynychu'r ysgol o'r tymor hydref dilynol. Mae'r ysgol uwchradd tri llawr ar gyfer 1,200 o ddisgyblion 11-16 yn cynnwys amrywiaeth o ofodau dysgu yn ogystal ag ardal gemau aml-ddefnydd, trac rhedeg glaswellt a maes pêl-droed.

Mae Willmott Dixon yn un o nifer o gontractwyr ar y fframwaith ar gyfer Y Gweithfeydd ac mae hefyd wedi gweithio i adnewyddu ac ymestyn y Swyddfeydd Cyffredinol sydd â rhestriad Gradd II*.

Dywedodd Leighton Andrews, Gweinidog Addysg a Sgiliau:

"Rwy'n falch iawn i fod yma heddiw i lansio cam 11-16 Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr. Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad i sicrhau y caiff holl blant Cymru eu haddysgu mewn amgylchedd sy'n addas ar gyfer dysgu ar gyfer y 21ain Ganrif. Rwy'n sicr y bydd yr adeilad newydd yma yn rhoi amgylchedd fydd yn ysbrydoli addysgu a dysgu am flynyddoedd lawer i ddod."

Dywedodd Neal Stephens, rheolwr gyfarwyddwr Willmott Dixon yng Nghymru:

"Bydd darpariaeth addysg sylweddol o fewn Y Gweithfeydd sy'n anelu i wella'r portffolio dysgu o fewn Blaenau Gwent. Bydd yr ysgol uwchradd yn eistedd wrth ochr ysgol gynradd newydd a choleg addysg bellach, gan ei gwneud yn gyrchfan addysg gynhwysfawr. Mae gan Willmott Dixon brofiad helaeth mewn cynllunio ac adeiladu ysgolion felly rydym yn falch i fedru dod â'r arbenigedd yma i sicrhau prosiect ansawdd uchel ar gyfer Blaenau Gwent. Mae gennym hefyd ymrwymiad i'r gymuned leol lle bynnag y gweithiwn o fewn Cymru. Mae hyn yn golygu y gwnawn ein gorau i gyrchu ein deunyddiau'n lleol, defnyddio isgontractwyr lleol a chyflogi pobl leol i sicrhau y caiff unrhyw fuddsoddiad ei ailgylchu ym mhob rhan o'r economi lleol.”

Dewiswyd enw'r ysgol leol gan fyfyrwyr y pedair ysgol mewn pleidlais a'r enw buddugol a ddewiswyd oedd Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr - Ebbw Fawr Learning Community.

Dywedodd y Cyng J Morgan, Cadeirydd y Corff Llywodraethu Drosdro:

"Hon fydd yr ysgol 3-16 a gynhelir gyntaf yng Nghymru ac mae'r enw a ddewiswyd gan y myfyrwyr a'r disgyblion yn rhoi neges glir i ni am ein dyfodol. Mae'r cyfan yn ymwneud â dysgu yma. Rydym yn awr yn edrych ymlaen at gychwyn ym mis Medi gydag enw y gwn y byddwn yn falch ohono".

Ychwanegodd y Cyng John Mason, Arweinydd Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent:

"Mae addysg yn brif flaenoriaeth ar gyfer Cyngor Blaenau Gwent, sy'n dilyn strategaeth uchelgeisiol i gynyddu cyrhaeddiad addysgol a chreu dyfodol mwy egnïol i'n cymunedau lleol. Rydym yn hynod falch i groesawu'r Gweinidog Addysg a Sgiliau i gyd-ddathlu carreg filltir bwysig wrth gyflenwi'r strategaeth honno. Yr ysgol  newydd 3-16 yw'r ysgol a gynhelir gyntaf o'i bath yng Nghymru ac mae'n fuddsoddiad miliynau o bunnau mewn addysg ym Mlaenau Gwent."

 

Dolenni perthnasol

Daeth disgyblion o Ysgolion Cynradd Pontygof a Waunlwyd ac Ysgol AAA Pen-y-Cwm ynghyd ar ddydd Mawrth 13 Rhagfyr ar safle eu hysgol newydd i ddathlu ei chynnydd.