Willmott Dixon yn adeiladu cam newydd 11-16 ysgol 3-16 yn Y Gweithfeydd
Cynhaliwyd y seremoni, ym mhresenoldeb y Gweinidog Addysg a Sgiliau Leighton Andrews, ar safle Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr gyda swyddogion lleol ac aelodau o'r gymuned. Mae'r ysgol newydd yn rhan o brosiect adfywio Y Gweithfeydd i drawsnewid hen safle gwaith dur Glynebwy. Mae'r prosiect £27 miliwn i'w gwblhau yn hydref 2013 gyda'r disgyblion yn mynychu'r ysgol o'r tymor hydref dilynol. Mae'r ysgol uwchradd tri llawr ar gyfer 1,200 o ddisgyblion 11-16 yn cynnwys amrywiaeth o ofodau dysgu yn ogystal ag ardal gemau aml-ddefnydd, trac rhedeg glaswellt a maes pêl-droed.
Mae Willmott Dixon yn un o nifer o gontractwyr ar y fframwaith ar gyfer Y Gweithfeydd ac mae hefyd wedi gweithio i adnewyddu ac ymestyn y Swyddfeydd Cyffredinol sydd â rhestriad Gradd II*.
Dywedodd Leighton Andrews, Gweinidog Addysg a Sgiliau:
"Rwy'n falch iawn i fod yma heddiw i lansio cam 11-16 Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr. Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad i sicrhau y caiff holl blant Cymru eu haddysgu mewn amgylchedd sy'n addas ar gyfer dysgu ar gyfer y 21ain Ganrif. Rwy'n sicr y bydd yr adeilad newydd yma yn rhoi amgylchedd fydd yn ysbrydoli addysgu a dysgu am flynyddoedd lawer i ddod."
Dywedodd Neal Stephens, rheolwr gyfarwyddwr Willmott Dixon yng Nghymru:
"Bydd darpariaeth addysg sylweddol o fewn Y Gweithfeydd sy'n anelu i wella'r portffolio dysgu o fewn Blaenau Gwent. Bydd yr ysgol uwchradd yn eistedd wrth ochr ysgol gynradd newydd a choleg addysg bellach, gan ei gwneud yn gyrchfan addysg gynhwysfawr. Mae gan Willmott Dixon brofiad helaeth mewn cynllunio ac adeiladu ysgolion felly rydym yn falch i fedru dod â'r arbenigedd yma i sicrhau prosiect ansawdd uchel ar gyfer Blaenau Gwent. Mae gennym hefyd ymrwymiad i'r gymuned leol lle bynnag y gweithiwn o fewn Cymru. Mae hyn yn golygu y gwnawn ein gorau i gyrchu ein deunyddiau'n lleol, defnyddio isgontractwyr lleol a chyflogi pobl leol i sicrhau y caiff unrhyw fuddsoddiad ei ailgylchu ym mhob rhan o'r economi lleol.”
Dewiswyd enw'r ysgol leol gan fyfyrwyr y pedair ysgol mewn pleidlais a'r enw buddugol a ddewiswyd oedd Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr - Ebbw Fawr Learning Community.
Dywedodd y Cyng J Morgan, Cadeirydd y Corff Llywodraethu Drosdro:
"Hon fydd yr ysgol 3-16 a gynhelir gyntaf yng Nghymru ac mae'r enw a ddewiswyd gan y myfyrwyr a'r disgyblion yn rhoi neges glir i ni am ein dyfodol. Mae'r cyfan yn ymwneud â dysgu yma. Rydym yn awr yn edrych ymlaen at gychwyn ym mis Medi gydag enw y gwn y byddwn yn falch ohono".
Ychwanegodd y Cyng John Mason, Arweinydd Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent:
"Mae addysg yn brif flaenoriaeth ar gyfer Cyngor Blaenau Gwent, sy'n dilyn strategaeth uchelgeisiol i gynyddu cyrhaeddiad addysgol a chreu dyfodol mwy egnïol i'n cymunedau lleol. Rydym yn hynod falch i groesawu'r Gweinidog Addysg a Sgiliau i gyd-ddathlu carreg filltir bwysig wrth gyflenwi'r strategaeth honno. Yr ysgol newydd 3-16 yw'r ysgol a gynhelir gyntaf o'i bath yng Nghymru ac mae'n fuddsoddiad miliynau o bunnau mewn addysg ym Mlaenau Gwent."
